Croeso i Ysgol Tre-Gib
Mae Tre-Gib yn Ysgol ddwyieithog naturiol yn meddu ar ethos sy'n adlewyrchu'r ardal yn nhermau iaith a diwylliant. Disgir Cymraeg i bob disgybl i fyny at 16+ ar lefel sy'n addas i allu ieithyddol yr unig-olyn.

Ym Mlwyddyn 7 mae'r rhaglen Gymraeg yn ddatblygiad o'r hyn dilynodd y disgybl yn yr Ysgol gynradd. Fe fydd y disgyblion sy'n dilyn y cwrs Cymraeg (Iaith Gyntaf) hefyd yn astudio Drama, Cerddoriaeth, Ffrangeg, Dylunio a Thechnoleg ac Ymarfer Corff tu fewn i raglen ddwyieithog. Cynigir pedwar pwnc, Hanes, Daearyddiaeth, Ysgrythur a Drama drwy gyfrwng y Gymraeg, i fyny, at, ac yn cynnwys lefel A. Mae Mathemateg ar gael hyd at lefel TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg tra bod Ffrangeg drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ar gael hyd at Blwyddyn 10. Dysgir Chwaraeon, Ymarfer Corff a Cherddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd i fyny at Flwyddyn 9 a Dylunio a Thechnoleg a Thechnoleg Gwybodaeth i fyny at Flwyddyn 8.
Mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn chwarae rhan bwysig ym mywyd yr Ysgol. Cyhoeddir pob dogfen a chyfathrebiad gyda rhieni yn ddwyieithog. Anogir aelodau o staff a disgyblion i gyfathrebu'n ddwy-ieithog mewn cymaint o sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol ag sy'n bosibl.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd nifer helaeth o newidiadau blaengar yn Nhre-Gib. Atebwyd yr her addysgiadol gydag adnoddau cwricwlaidd addas. Yn ddiweddar, ychwanegwyd deg ystafell o gyfrifiaduron ar gyfer Technoleg Gwybodaeth/Astudiaethau Busnes, Technoleg, Ystafell Gerddoriaeth â chyfrifiaduron a Stiwdio Arlunio. Yn ychwanegol gosodwyd clystyrau llai o gyfrifiaduron ym mron pob un gyfadran. Mae'n bosibl i'r disgyblion yn awr i gysylltu â'u ffeiliau Technoleg Gwybodaeth ar hyd a lled yr Ysgol. Lluniwyd dwy labordy Wyddoniaeth newydd, hefyd ac adnewyddwyd y Ganolfan Hamdden, a stiwdio Gelf a Dylunio ynghyd â'r holl ystafelloedd Technoleg. Tair blynedd yn ôl ychwanegwyd adeilad newydd sbon yn cynnwys 5 ystafell dosbarth ar gyfer Mathemateg ac Anghenion Arbennig, a llynedd ychwanegwyd adeilad newydd i'r Adran Gymraeg ac Addysg Grefyddol.
J.D. Griffiths.
Pennaeth