Safwe Ysgol Y Strade

Croeso

Sefydlwyd Ysgol Gyfun Y Strade ym 1977 fel Ysgol Ddwyieithog i fechgyn a merched. Y mae gennym tua 840 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda tua 150 yn y flwyddyn gyntaf.

Pupils at ComputersMae'r ysgol yn darparu, o fewn cymuned Gymraeg, hapus, a diogel, yr ystod ehangaf posibl o brofiadau addysgol, gan baratoi ein hieuenctid ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn galluogi pob disgybl i gyflawni ei wir botensial yn academaidd, yn ymarferol ac yn gymdeithasol ac i arddangos parch a chwrteisi tuag at gyd-ddisgyblion ac oedolion. Ysgol Gymraeg yw'r Strade, a disgwylir i'r disgyblion ddefnyddio'r iaith Gymraeg bob cyfle posibl y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth.

Mae staff a disgyblion Y Strade yn gweithio 'n egniol i gynnal arwyddair yr ysgol,sef "Nid da lle gellir gwell ".

 


Arolwg Ysgol Y Strade, Hydref 2006.

Arolygwyd yr ysgol gan dîm Estyn yn Hydref 2006 a phrif ganfyddiad yr adroddiad yw bod Ysgol Y Strade yn ysgol dda iawn gyda llawer o nodweddion rhagorol.  Dyfarnwyd gradd 1 ar gyfer pob un o’r saith cwestiwn allweddol.  Y Strade yw’r drydedd ysgol uwchradd yn unig yng Nghymru i gyflawni hyn ers cyflwyno’r drefn newydd yn 2004.

Yn ychwanegol at hyn, dyfarnwyd y graddau uchaf i’r chwe phwnc a arolygwyd ar draws pob cyfnod allweddol a dyfarnwyd 95% o’r gwersi a arsylwyd yn wersi graddau 1 a 2.  Yn ystadegol dyma’r arolwg gorau gan unrhyw ysgol o dan y drefn newydd.

Adroddiad - Report.pdf (size 337.2 KB)


 

Datblygwyd y tudalennau yma gan yr ysgol. Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglŷn â'r cynnwys cysylltwch â'r pennaeth os gwelwch yn dda.

Search