Prosbectws
AMCANION YR YSGOL
Prif nod yr ysgol yw i annog y plentyn i ddatblygu fel unigolyn ac fel aelod o gymdeithas er mwyn ei baratoi ar gyfer bod yn oedolyn.
Er mwyn cyrraedd y prif nod rhaid :
· Datblygu meddwl hyblyg ac effro sy'n mynnu gofyn cwestiynau, sicrhau dealltwriaeth, gwybodaeth a medrau perthnasol i fywyd a gorchwylion.
· Meithrin cyfres o werthoedd moesol a bod yn barod i gyfrannu i'r gymdeithas.
· Gallu rheoli ei emosiynau a'i ymddygiad ei hun fel ei fod yn hunan-hyderus, a chanddo ymdeimlad o ddigonolrwydd personol.
· Deall natur a gwerth y grefydd Gristnogol a bod yn ymwybodol o, ac yn oddefgar tuag at grefyddau eraill.
· Datblygu'r medrau sylfaenol ym mhob testun a ddysgir yn yr ysgol drwy gyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn unol a gofynion y Ddeddf Addysg.
· Creu ymwybyddiaeth o'r angen am lendid personol, moesgarwch a chwrteisi.
· Hybu arferion diogelwch yn yr ysgol, y cartref a'r gymdeithas.
· Mae gan yr ysgol gytundeb cartref-ysgol sydd yn amlinellu yr hyn a disgwylir gan yr ysgol, y rhiant a'r plentyn. Mae'n ofynnol i rieni newydd arwyddo copi a'i ddychwelyd i'r ysgol.
AMSEROREDD AGOR A CHAU
Babanod: 9.00 a.m. tan 12.00 p.m. 1.00 p.m. tan 3.10 p.m.
Iau: 9.00 a.m. tan 12.15 p.m. 1.00 p.m. tan 3.10 p.m.
Rhoddir pwyslais ar brydlondeb. I hyrwyddo eu diogelwch, gwell yw i’r plant beidio â chyrraedd yr ysgol yn rhy gynnar yn y bore na chaniatáu iddynt oedi gormod cyn cael eu casglu ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
Nid yw'r ysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y plant cyn 8.45 a.m. nac ar ôl 3.30 p.m.
Os oes unrhyw newid yn nhrefniadau casglu plentyn o'r ysgol, a wnewch chi fod mor garedig â sicrhau bod yr ysgol yn gwybod amdanynt, er mwyn diogelwch y plant.
SAFLE'R YSGOL
Saif yr ysgol ar yr Heol B4306, o Bontyberem i Gaerfyrddin, lle mae Heol Mynyddcerrig yn ymuno â hi rhyw filltir o Sgwâr Pontyberem. Mae'r brif fynedfa i'r ysgol ar y B4306, ac mae mynedfa arall ar Heol Mynyddcerrig. Ystod Oed y Plant : 4 - 11 mlwydd oed.
POLISI CODI TAL
Pan fyddai'n bosibl, fe fydd yr ysgol yn cynnig gweithgareddau allgyrsiol yn rhad ac am ddim i'r disgyblion e.e. gwersi cerdd.
Ar brydiau ni fydd cost gweithgaredd yn gallu cael ei gynnal gan yr ysgol e.e. tripiau addysgol. Mewn achosion fel hyn fe fydd Ffrindiau'r Ysgol yn gwneud cyfraniad tuag at y costau teithio, fe fydd yna ofyn am gyfraniad gwirfoddol gan y rhieni tuag at weddill cost y gweithgaredd.
Os yw rhiant yn teimlo bod angen cymorth ariannol tuag at gost unrhyw weithgaredd yna y gallent fynd ar ofyn y Corff Llywodraethol ar gyfer dileu taliadau.
Y CWRICWLWM YSGOL
Ar hyn o bryd mae cwricwlwm yr ysgol wedi ei drefnu yn y modd yma
Plant dosbarth Derbyn (3-5) yn dilyn Cwricwlwm y Blynyddoedd Cynnar a'r 6 maes dysgu:
· Datblygiad personol a chymdeithasol
· Iaith, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu
· Datblygiad mathemategol
· Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r byd
· Datblygiad creadigol
· Datblygiad corfforol
Mae Plant Blynyddoedd 1 i 6 yn dilyn pynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae Bl1 a 2 yng Nghyfnod Allweddol 1 a Bl3 - 6 yng Nghyfnod Allweddol 2.
Y pynciau a astudir yw:
· Cymraeg
· Saesneg (CA2 yn unig)
· Mathemateg
· Gwyddoniaeth
· Daearyddiaeth
· Hanes
· Addysg Grefyddol
· Addysg Gorfforol
· Technoleg Gwybodaeth
· Celf
· Technoleg
· Cerdd
Mae rhaglen ABCh yn cael ei gwmpasi yn y Rhaglen Gwyddoniaeth ac Addysg Grefyddol.
Mae'r plant yn cael eu dysgu mewn 3 dosbarth oed cymysg gyda'r tasgau yn cael eu gwahaniaethu yn ôl y gwahanol ystod gallu o fewn y grp. Mae cynnwys bob dosbarth yn cael ei reoli gan niferoedd gyda'r bwriad pob amser i greu dosbarthiadau cytbwys o ran rhif ar draws yr ysgol. Hysbysir y rheini o unrhyw newidiadau yn y tymor cyn bod y newidiadau'n digwydd.
Os yw rhiant yn anhapus gydag unrhyw agwedd o gwricwlwm yr ysgol dylai gysylltu â’r Pennaeth yn gyntaf er mwyn ceisio datrys y broblem. Os nad yw hyn yn llwyddiannus bydd polisi cwynion yr ysgol (ar gael gan y Pennaeth) yn cael ei weithredu.
Darperir adroddiad ysgrifenedig yn flynyddol i'r rhieni yn ystod tymor yr haf. Gwahoddir y rhieni i wneud apwyntiad i weld a thrafod gwaith y plant gyda'r athro dosbarth ar ddiwedd y flwyddyn academaidd..
Yn ogystal, gweithredir cynllun "drws agored", lle gall rhiant ffonio a gwneud apwyntiad i weld a thrafod datblygiad y plentyn, neu i drafod unrhyw fater addysgol perthnasol gyda'r Pennaeth neu'r athro dosbarth ar amser cyfleus.
Rhaid cysylltu â’r Pennaeth cyn ymweld ag un o'r athrawon.
MARCIO A CHYWIRO
Mae marcio gwaith plant yn rhan annatod o asesu gwaith ac wrth farcio medrwn:
a) adnabod cryfderau a gwendidau'r plant er mwyn eu cynorthwyo.
b) cynllunio y camau nesaf yn eu datblygiad.
Ceisiwn farcio'n adeiladol ac yn ddewisol gan ofalu peidio â gôr gywiro. Rhaid sylweddoli bod gofynion tasgau a osodir yn amrywio, ac adlewyrchir hyn yn y marcio e.e. gellir canolbwyntio ar y cynnwys, amserau'r ferf neu'r atalnodi.
GWAITH CARTREF
Rhoddir gwaith cartref yn achlysurol i blant dosbarthiadau'r Babanod. Gosodir gwaith cartref i'r Adran Iau yn wythnosol. Nid yw gwaith cartref yn orfodol ond anogir y plant hyn i arfer gweithio gartref fel rhan o'u paratoad ar gyfer ysgol Uwchradd. Dylid pwysleisio nad yw gwaith cartref o reidrwydd yn waith ysgrifenedig. Awgrymir yn gryf y dylid neilltuo cyfnod byr bob nos i ddarllen addas ar gyfer oed darllen y plentyn yn Gymraeg a Saesneg.
Trefnir ffair lyfrau yn achlysurol lle bydd y rhieni yn cael cyfle i ddewis llyfrau i'r plant.
ADDYSG ARBENNIG
ADNABOD PLANT AG ANGHENION ARBENNIG
Polisi'r ysgol yw i geisio adnabod plant ag Anghenion Addysgol Arbennig mor gynnar ag sydd bosib. Pan fod plentyn yn cael ei adnabod ag anghenion arbennig fe fydd y Pennaeth yn trafod y ffordd ymlaen gyda'r rhieni.
CYMORTH
Darparir cymorth wythnosol i blant ag Anghenion Addysgol Arbennig gan aelod o'r staff. Rhoddir plant mewn grwpiau bach er mwyn rhoi sylw arbennig iddynt a chanolbwyntir ar eu medrau darllen ynghyd ag unrhyw ddiffyg amlwg arall.
Byddwn yn addasu'r cwrs addysg i blentyn sydd angen cymorth arbennig ar gyfer yr elfennau sylfaenol mewn gwaith iaith a rhif, er hyn gwneir pob ymdrech i roi addysg gyflawn yn llawn amrywiol brofiadau i bob disgybl, gan geisio ymestyn pob plentyn hyd orau ei allu.
ADDYSG RHYW
Mae'r athrawon yn barod i ateb cwestiynau a ofynnir gan ddisgyblion ynglŷn â rhyw gan wneud hynny mewn modd sensitif a chymryd i ystyriaeth aeddfedrwydd y plentyn unigol. Cyflwynir agweddau ar Addysg Rhyw wrth astudio rhai o Dargedau Cyrhaeddiad y Cwricwlwm Gwyddoniaeth.
ADDYSG GREFYDDOL AC ADDOLI AR Y CYD
Mae addysg grefyddol yr ysgol yn dilyn Maes Llafar Cytûn yr Awdurdod Addysg. Mae plant yn dysgu drwy themâu gyda'r pwyslais yn aml grefydd/aml ddiwylliant.
Mae addoli ar y cyd wedi ei drefnu fel bod gwasanaeth ddosbarth ar Ddydd Llun a Dydd Gwener gyda'r ysgol gyfan yn dod at ei gilydd ar Ddydd Mawrth, Mercher ac Iau. Mae'r athrawon yn gyfrifol am un gwasanaeth yr wythnos yn eu tro. Os yw rhiant yn teimlo bod angen eithrio plentyn o'r gwasanaeth neu Addysg Grefyddol am resymau dilys y dylent gysylltu â’r Pennaeth fel bod trefniadau gwahanol yn gallu cael ei gwneud.
IAITH
Mae'r ysgol hon mewn ardal wledig draddodiadol Gymreig sy’n perthyn i grp categori 'A' Polisi Iaith Awdurdod Addysg Sir Gaerfyrddin. Nod y polisi dwyieithog hwn yw addysgu'r disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog wrth ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg. Cymraeg fydd prif gyfrwng bywyd a gwaith Adran y Babanod a'r Adran Iau, gyda'r Saesneg yn cael ei chyflwyno wrth i blant drosglwyddo i'r Adran Iau.
. Dywed datganiad yr Awdurdod y canlynol am weithredu'r polisi iaith mewn
ysgolion Categori 'A'.
(i) "Y Gymraeg fydd prif gyfrwng bywyd a gwaith mewn adrannau meithrin a phlant bach er mwyn i'r plant gael sylfaen gadarn yn yr iaith".
(ii)" Cymraeg fydd prif gyfrwng bywyd a gwaith yn yr adrannau Iau a dylid dechrau cyflwyno'r Saesneg wrth i blant drosglwyddo o'r adran plant bach i'r adran Iau er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfle i ddatblygu yn gwbl ddwyieithog erbyn gadael yr ysgol gynradd."
CHWARAEON
Disgwylir i bob plentyn gymryd rhan yn y gwersi ymarfer corff a chwaraeon, a hynny mewn dillad addas. Cynigir profiadau mewn amrywiaeth eang o chwaraeon er mwyn meithrin a hybu datblygiad sgiliau.
Darperir gwersi nofio i'r Adran Iau ym Mhwll Nofio'r Ganolfan Hamdden yng Nghaerfyrddin. Os nad yw'r plentyn i fynd i nofio oherwydd annwyd trwm neu anhwylder, disgwylir i'r rhiant ddanfon llythyr o esboniad neu ffonio'r ysgol.
Mae timau o'r ysgol yn cystadlu yn erbyn timau o ysgolion eraill yng nghystadlaethau'r Cwm, Yr Urdd a hefyd er mwyn cymdeithasu a phlant o ysgolion cyfagos - mewn chwaraeon feI pêl droed, rygbi, pêl rhwyd, criced, traws gwlad. Cymerir rhan ym Mabolgampau'r Mynydd Mawr yn flynyddol.
Pwysleisir bod "cymryd rhan" yn y gweithgareddau yn bwysicach na'r ennill a bod rhaid i bob unigolyn gyfrannu o'i orau glas ar bob achlysur.
CYFLE CYFARTAL
Mae gan yr ysgol a'r Corff Llywodraethol bolisi Cydraddoldeb hiliol a chyfle cyfartal sy'n datgan y byddwn yn:
· gwrthwynebu pob math o wahaniaethau annheg, fel unigolion ac fel sefydliad, boed hwnnw’n gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol, ar sail rhyw, lliw, cefndir ethnig neu genedl, crefydd, anabledd, adnoddau ariannol, cefndir cymdeithasol, statws HIV, oed, golwg, gallu, iaith, barn wleidyddol, maint, statws priodasol neu dueddfryd rhywiol.
· yn herio rhagfarn neu syniadau afresymol ynghylch grwpiau mewn cymdeithas ac yn ceisio meithrin goddefgarwch a pharodrwydd i dderbyn gwahaniaethau.
· yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth mewn cymuned a thu hwnt.
· yn ceisio bod yn gymuned gynhwysol, yn ystyr ehangaf y gair.
· yn paratoi'r disgyblion ar gyfer bywyd fel oedolyn mewn cymdeithas aml-ddiwylliannol.
CYNLLUN HYGYRCHEDD
Mae gan yr Ysgol a'r Corff Llywodraethol cynllun hygyrchedd er mwyn sicrhau mynediad i bob disgybl ac er mwyn sicrhau nad yw disgyblion anabl yn cael eu trin yn wahanol i bob disgybl. Mae copi o'r cynllun ar gael yn yr ysgol.
DIOGELWCH
Cymerir pob gofal rhesymol am y plant bob amser. Mae rheolau'r ysgol yn ystyried diogelwch y plant. Mae system rhybudd tan yn yr ysgol, a chynhelir dril o bryd i'w gilydd.
Gofynnir i rieni sy’n dod â phlant i'r ysgol mewn ceir preifat i beidio â gorlenwi'r mynediad i'r ysgol, ac wrth eu casglu ar ddiwedd dydd gofynnir i chi wneud hynny o fynedfa heol Mynyddcerrig. Pan fydd y tywydd yn arw, gall rhieni ffonio'r ysgol i dderbyn gwybodaeth am unrhyw drefniadau gwahanol a allai fodoli. Mae swyddog patrôl y ffordd yn gofalu am y plant pan fyddant yn croesi'r heol tu allan i'r ysgol.
Mae prif fynedfa'r ysgol yn cael ei gloi yn ystod y diwrnod ysgol. Gofynnir i ymwelwyr ganu'r gloch ac aros am aelod staff i agor y drws. Nid yw'r plant yn cael agor y drws i ymwelwyr.
DERBYN PLANT NEWYDD
Derbynnir plant ar ddechrau'r Tymor sy'n cynnwys eu pedwaredd pen blwydd
Awgrymir bod rhieni yn danfon eu plant i'r Ysgol Feithrin leol fel paratoad i'r plant cyn cychwyn yn yr ysgol. Cynhelir yr Ysgol Feithrin yn un o 'ystafelloedd yr Adran Babanod.
Rhoddir cyfle i blant newydd ymweld â’r ysgol am ddiwrnod ar ddiwedd y tymor cyn iddo / iddi ddechrau yn swyddogol. Dylid cysylltu â’r ysgol er mwyn cael mwy o wybodaeth am y trefniant. '
Awgrymir bod rhieni plant newydd yn gwneud apwyntiad gyda'r Pennaeth i ymweld â’r ysgol cyn i'r plentyn ddechrau.
Dosberthir y disgyblion fel arfer yn ôl eu hoedran mewn dosbarthiadau cymysg eu gallu. Oherwydd rhif y plant sy'n mynychu'r ysgol, rhaid ar adegau rannu blwyddyn ysgol, - gydag aeddfedrwydd, personoliaeth a gallu plentyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniad. Bydd unrhyw newid dosbarth yn cael ei wneud gyda lles y plentyn yn flaenoriaeth.
Trosglwyddir y plant fel rheol i un o Ysgolion Uwchradd y Cwm yn y mis Medi sy'n dilyn eu pen-blwydd yn ll oed.
Y ddwy Ysgol Uwchradd yw :
Ysgol Gyfun Ddwyieithog Maes-yr-yrfa. Ysgol Gyfun y Gwendraeth.
DISGYBLAETH A RHEOLAU'R YSGOL
Nodir y canlynol er mwyn paratoi'r plant i dyfu i fod yn ddinasyddion da, gweithgar, cymwynasgar a pharchus mewn cymdeithas. Disgwylir i bob plentyn ymddwyn yn weddus a moesgar, ac i gymryd lle cyflawn o fewn cymdeithas yr ysgol.
Disgwylir i ddisgyblion yr ysgol gydymffurfio â’r canlynol.
· Dangos boneddigrwydd tuag at eu cyd ddisgyblion ac oedolion. 2. Ufuddhau i gyfarwyddiadau'r athrawon.
· I fod yn brydlon.
· I barchu llyfrau, offer, dodrefn a chyfarpar yr ysgol. 5. I barchu eiddo personol eu cyd ddisgyblion.
· I barchu eu hamgylchfyd - adeilad yr ysgol, y tir o gwmpas ynghyd â phob man arall y tu allan i'r ysgol.
· I ufuddhau i drefniadaeth dril tan.
· I beidio â dringo muriau neu gloddiau yn y cae chwarae nac ar faes chwarae'r ysgol.
· I beidio â gadael yr ysgol heb ganiatâd.
· I gerdded, ac nid rhedeg, tu mewn i adeilad yr ysgol.
Yn ogystal, awgrymir y canlynol :
· Dylid cael enw'r plentyn ar bob dilledyn.
· Anogir y plant i gadw'u gwallt yn raenus.
· Ni ddylid gwisgo gemau gwerthfawr i'r ysgol.
· Ni chaniateir dod â photeli gwydr i'r ysgol.
GWYBODAETH GYFFREDINOL
Meddyginiaeth
Yn unol a Pholisi’r Adran Addysg mae’n ofynnol bellach i rieni gwneud cais i’r Pennaeth pe bai eisiau rhoi unrhyw fath o feddyginiaeth, yn cynnwys anadlydd, i’w plentyn. Mae’r ffurflenni cais ar gael oddi wrth y Pennaeth.
PRYDAU BWYD YSGOL
Mae cegin fodern yn yr ysgol ac mae ystafell fwyta eang sydd yn medru arlwyo ar gyfer anghenion plant sy'n bwyta cinio ysgol a'r rhai sy’n dod â bwyd eu hunain. Gall rhieni ymgynghori a’r gogyddes yngln ag ymborth arbennig i'w plentyn. Rhaid talu am y cinio yn brydlon ar ddechrau'r wythnos - ar Ddydd Llun.
Yn ystod yr awr ginio mae dwy yn arolygu'r plant - un ar gyfer y dosbarthiadau babanod a'r llall ar gyfer yr adran Iau.
Fel rheol, mae ffurflenni cais am ginio di-dal i'w cael yn yr ysgol. Gellir eu cael hefyd o’r Swyddfa Ranbarthol.
CYMDEITHAS RHIENI / ATHRAWON.
Mae'r ysgol yn hynod o ffodus bod ganddi Gymdeithas Rhieni / Athrawon gweithgar a chefnogol. Mae cost amryw o weithgareddau, megis tripiau ac ymweliadau addysgol, yn ogystal ag offer addysgol yn cael eu talu gan y Gymdeithas. Er hyn, rhaid ar adegau ofyn am gyfraniadau gwirfoddol tuag at y costau.
DIOGELWCH Y FFORDD
Mae plant hynaf yr ysgol yn derbyn gwersi medrusrwydd beicio, ac mae timau yn cystadlu mewn cwisiau ar Ddiogelwch ar y ffyrdd a Rheolau'r Ffordd. Bydd yr Heddlu Lleol yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd.
YR URDD
Mae plant yr ysgol yn cael cyfle i gystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd.
YR YSGOL YN Y GYMDEITHAS
Ceisir sicrhau bod y plant yn ymwybodol o'u dyletswyddau yn y gymdeithas a cheisir meithrin perthynas glos rhyngddynt. Cymerir rhan yn flynyddol yng Nghyngerdd Brethyn Cartref y pentref; y Sioe Amaethyddol a'r Eisteddfod leol, yn ogystal ag unrhyw alwadau eraill o ran y gymdeithas leol a all fod o fudd i'r plant yn ogystal â'r gymdeithas. Gwahoddir rhieni yn achlysurol i wahanol weithgareddau'r ysgol.
GWASANAETHAU CYNORTHWYOL.
Darperir y canlynol gan yr Awdurdod Addysg Lleol - Meddygon Ysgol, Deintyddion, Ymwelwyr Iechyd, a Therapyddion Llefaru. Os oes gennych wrthwynebiad i'ch plentyn gael ei weld gan un o'r uchod rhaid rhoi gwybod i'r ysgol yn ddiymdroi.
* * Ni roir unrhyw driniaeth gan yr uchod heb ganiatâd y rhiant. * *
Mae'r Awdurdod hefyd yn darparu Gwasanaeth Seicolegol. Cysylltir a'r rhieni mewn unrhyw achos lle gwelir yr angen am gymorth y Gwasanaeth uchod.
GWISG YSGOL.
Mae gwisg ysgol yn ddymunol ac y gallwch ei brynu o'r ysgol ar ddechrau pob tymor. Mae'r wisg yn cynnwys crys polo glas golau a crys chwys glas brenhinol. Mae llawer o'r merched yn gwisgo ffrog Gingham yn ystod tymor yr haf. Gwisgir siacedi "Fleece" hefyd yn ystod y gaeaf.
TREFNIADAETH FUGEILIOL YR YSGOL
Cyfrifoldeb y Pennaeth yw goruchwyliaeth gyffredinol yr ysgol, ac fe'i cynorthwyir gan aelodau eraill y staff.
Er ein bod fel Staff yn gwneud popeth i sicrhau diogelwch y plant, mae damweiniau yn gallu digwydd o bryd i'w gilydd, a rhoddir triniaeth yn ddiymdroi. Pan ddigwydd damwain mwy difrifol hysbysir y rhieni amdano cyn gynted â phosibl a phetai angen eir a'r plentyn i'r Feddygfa ym Mhontyberem neu i Ysbyty Glangwili. Delir a man friwiau gan aelodau o'r staff.
Ni chaniateir i'r plentyn gymryd moddion yn yr ysgol ond ar achlysuron arbennig yn unig. Rhaid gwneud cais ar ffurflen swyddogol i 'r Pennaeth ymlaen llaw cyn rhoir moddion i blentyn.
Mewn achosion o absenoldeb gwerthfawroga'r athrawon nodyn neu alwad ffôn o esboniad pan ddychwela'r plentyn i'r ysgol. Gofynnir hefyd am gais ysgrifenedig neu alwad ffon os am ganiatâd i'r plentyn adael yr ysgol yn gynnar.
Os oes apwyntiad gan y plentyn (i weld y meddyg, deintydd neu nyrs, ac yn y blaen) yn ystod sesiwn y bore, byddai o gymorth i'r ysgol petawn yn cael gwybod os yw'r plentyn yn bwriadu dod dol i'r ysgol i gael cinio ysgol.
Er mwyn gweithredu'r uchod yn effeithiol rhaid pwysleisio pwysigrwydd rhoi gwybod i'r Ysgol am unrhyw newid yn :
a) Rhif ffon cartref.
b) Cyfeiriad cartref.
c) Rhif ffon brys.
ch)Cyflwr meddygol plentyn.