CROESO I YSGOL BANCFFOSFELEN

Diolch i chi am ymweld â'n gwefan lle rydym yn gobeithio cewch ddarganfod yr holl wybodaeth sydd angen arnoch parthed ein hysgol

Ysgol gynradd ddwyieithog yw Ysgol Bancffosfelen sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 3 - 11 oed ac y mae wedi ei lleoli tua dwy filltir o Bontyberem yng Nghwm Gwendraeth.

Derbynnir plant i'r ysgol yn llawn amser ar ddechrau'r tymor y cânt eu pen-blwydd yn bedair oed.

Prif nod yr ysgol yw annog y plentyn i ddatblygu fel unigolyn ac fel aelod o gymdeithas er mwyn ei baratoi ar gyfer bod yn oedolyn.


Marc Safon 3

Datblygwyd y tudalennau yma gan yr ysgol. Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglŷn â'r cynnwys cysylltwch â'r pennaeth os gwelwch yn dda.

Search