Ysgolion ar gau drwy Argyfwng
Cyfarwyddiadau i Ysgolion Parthed Cau Ysgolion Oherwydd Argyfwng
Bydd amserau, yn enwedig yn ystod y gaeaf, pan fydd rhaid cau ysgolion oherwydd materion yn ymwneud â thrafnidiaeth, problemau gyda’r gwres canolog, y tywydd a.y.b.
Mae’n bwysig, ar adegau felly i gyfleu’r gwybodaeth i’r cyhoedd cyn gynted â phosibl a dyna’r rheswm dros ddanfon y cyfarwyddiadau yma at bob Pennaeth:
Mae adran wedi’i greu ar wefan y Sir sy’n rhoi gwybodaeth pan fydd rhaid cau ysgol. Yr ysgolion eu hunain sy’n gyfrifol am fwydo’r gwybodaeth i hwn ac mae’r rhieni ac aelodau o’r cyhoedd yn gallu canfod yr wybodaeth yn ddyddiol. Mae Swyddfa Wasg y Cyngor a Radio Sir Gâr yn cadw llygad arno. Buaswn yn argymell felly y dylai pob pennaeth ei ddefnyddio pan fo’n bosibl. (Cyfeiriwch os gwelwch yn dda at Ganllaw i Ddefnyddwyr Ysgolion ar Gau isod).
Maent wedi cytuno y gall Penaethiaid gysylltu â hwy’n uniongyrchol pan fo’n rhaid cau ysgol. Rhaid defnyddio’r cyfrinair ****** er cadarnhau fod y neges yn gywir. Mae’r cyfrinair yma a’r rhifau ffôn a ddefnyddir ar gyfer argyfwng yn rhai cyfrinachol. (Mae’r gwybodaeth hwn wedi cael ei ddanfon yn barod ar E-bost).
Gall ysgolion gysylltu â Swyddfa’r Wasg adeg oriau gwaith arferol ac fe drosglwyddir yr wybodaeth I gyfryngau lleol o fewn munudau.
Y tu allan i oriau gwaith gallwch gysylltu’n uniongyrchol â rheolwr y wasg ac fe drosglwyddir eich neges ar unwaith. Bydd yn cael ei drosglwyddo i Radio Sir Gâr yn gyntaf ac yna i’r cyfryngau eraill.
Rhifau ar gyfer Argyfwng |
|---|
| Radio Sir Gâr (desg newyddion) | 0845 8902000 |
| Radio Sir Gâr (heb fod yn y llyfr ffôn) | 01834 862029 |
| | |
| Swyddfa'r Wasg (adeg oriau gwaith) | 01267 224037 |
| | 01267 224923 |
| | 01267 224913 |
| | 01267 224114 |
| | |
| Rheolwr y Wasg (y tu allan i oriau gwaith) | 07880 504296 |
Cyswllt i rhestr yr ysgolion sydd ar gau