Croeso i'r Uned Cynnal Llywodraethwyr
Mae Uned Cynnal Llywodraethwyr Sir Gâr yn darparu gwasanaethau i lywodraethwyr ysgolion ar draws y sir. Ar y safle hon, cewch wybodaeth am ein hadran ac hefyd gysylltiadau i adnoddau defnyddiol.
Mae'r Uned Cynnal Llywodraethwyr wedi ei lleoli ym Mhibwrlwyd ar gyrion tre Caerfyrddin. Mae dros 1800 o lywodraethwyr ysgolion wedi eu gwasgaru ymhlith bron 140 o ysgolion led led y sir, ac mae'r uned yma yn darparu rôl bwysig drwy gyd-drefnu'r gweithgareddau a'r dyletswyddau sydd i'w cyflawni gan y llywodraethwyr hyn. Mae Cynnal Llywodraethwyr yn rhan allweddol o Wasanaeth Cynnal Ysgolion y Sir a ddaw o dan ymbarel yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant. Rheolwr yr uned yw Mr. Ken Davies, gyda chymorth oddiwrth Jane Rees, Rhianydd Jones-Evans ac Anwen Fisher. Os fydd gennych gwestiynau ar unrhyw destun, cofiwch gysylltu â ni: Uned Cynnal Llywodraethwyr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Pibwrlwyd Caerfyrddin SA31 2NH | 
Ken Davies Rheolwr yr Uned KenDDavies@sirgar.gov.uk |