Newyddion
Hwyl Gyda Sgiliau Sylfaenol Trwy TGCh a Rhifedd
Cliciwch yma i ymweld â'n tudalen Sgiliau Sylfaenol.
Cwricwlwm Cymru 2008: Crynodeb o'r cynigion ymgynghorol.
Mathemateg
Mae'r rhaglenni astudio wedi'u hysgrifennu yn nhermau Sgiliau ac Ystod gyda'r llinynnau canlynol:

- Mae llawer o'r adran Sgiliau yn perthyn yn agos i Defnyddio a Chymhwyso Mathemateg, Targed Cyrhaeddiad 1 yn y Gorchmynion mathemateg cwricwlwm cenedlaethol cyfredol.
- Dilewyd cyfeiriadau at debygolrwydd, siartiau cylch, trawsfudiad, π a chylchedd cylch, a threfn cymesuredd cylchdro o Raglen Astudio Cyfnod Allweddol 2 a'u hychwanegu at Raglen Astudio Cyfnod Allweddol 3.
- Dilewyd cyfeiriadau at uwch-hafaliadau polynomaidd, loci, llinellau ffit gorau, cydberthyniad, dimensiynau, amrediad rhyngchwartel a chyfrifiadau tebygolrwyddau cyfuniad o ddau ddigwyddiad o Raglen Astudio Cyfnod Allweddol 3 a'u gosod yn Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 4.
- Dilewyd cyfeiriadau at rifau cymarebol ac anghymarebol, ffitio ffwythiannau i setiau data, fectorau, gwyriad safonol a dulliau samplu o Raglen Astudio Cyfnod Allweddol 4.
- Dilewyd rhai manylion (e.e. yn Rhaglen Astudio Cyfnod Allweddol 2 mae 'estyn eu dealltwriaeth o'r system rhif i rifau negatif mewn cyd-destun, a degolion gyda dim mwy na dau le degol yng nghyd-destun arian, a tri lle degol wrth weithio gydag unedau metrig' wedi dod yn 'defnyddio rhifau negatif yng nghyd-destun tymheredd a degolion yng nghyd-destun arian a mesurau').
- Dilewyd dyblygiad rhwng gwahanol adrannau; er enghraifft, cynhwysir cyfeiriadau at iaith fathemategol dan 'Cyfathrebu yn fathemategol' ac ni chynhwysir hwy dan Rhif (pedwar gweithrediad - defnyddio iaith gysylltiedig) neu Siâp (...gan feithrin manwl gywirdeb wrth ddefnyddio'r iaith geometregol gysylltiedig).
- Addaswyd rhai ymadroddion i adlewyrchu'r sgiliau yn fwy eglur.
- Ychwanegwyd enghreifftiau yn perthyn i'r unfed ganrif ar hugain a gallu ariannol.
- Ymgorfforwyd y datganiadau 'Dylid rhoi cyfleoedd i'r disgyblion ...' ar ddechrau pob llinyn cyfredol i'r rhaglen astudio, naill ai i'r adran Sgiliau neu'r cyd-destun perthnasol; er enghraifft, mae 'gwerthfawrogi natur fras mesur a chymhwyso eu sgiliau mesur mewn ystod o gyd-destunau' (CA2) wedi'i gynnwys (ail-eiriwyd) dan Sgiliau yn 'Datrys problemau mathemategol'.
- Cyfunwyd y disgrifiadau lefel i bob un o'r pedwar targed cyrhaeddiad cyfredol, a'u hysgrifennu fel un lefel cyrhaeddiad yn ymgorffori'r Sgiliau a'r Ystod, gan roi paragraff sengl i bob lefel, gyda Lefelau 1 i 3 yn cysylltu â deilliannau'r Cyfnod Sylfaen a gynigir. Mae hyn yn golygu y bydd athrawon yn ystyried tri pharagraff dilynol yn unig heb unrhyw bwysiad, er mwyn gwneud penderfyniad ar lefel ffit orau dysgwr.
- Mae rhai o'r datganiadau cyfredol wedi'u cwtogi, eu symleiddio neu eu cyfuno. Er enghraifft:
Lefel 4: Mae 'Bydd y disgyblion yn datblygu eu strategaethau eu hunain ar gyfer datrys problemau ac yn defnyddio'r strategaethau hynny wrth weithio mewn mathemateg ac wrth gymhwyso mathemateg at gyddestunau ymarferol. Cyflwynant wybodaeth a chanlyniadau yn glir a threfnus' wedi dod yn 'Bydd y disgyblion yn datblygu strategaethau ar gyfer datrys problemau, ac yn cyflwyno gwybodaeth a chanlyniadau mewn modd systematig.'
Lefel 7: Mae 'Bydd disgyblion yn sylweddoli natur amhendant mesur ac yn cydnabod y gall mesuriad a roddir i'r rhif cyfan agosaf fod yn anghywir o hyd at un hanner i'r naill gyfeiriad neu'r llall' wedi dod yn 'Byddant yn sylweddoli natur amhendant mesur.'
Mae datblygu Sgiliau Meddwl yn flaenoriaeth o fewn yr AALl. Gweler y cysylltiadau isod am wybodaeth ar Raglenni Sgiliau Meddwl Mathemateg sydd ar gael:
Primary CAME Thinking Maths File (Years 5 and 6)
Let’s Think through Maths! (Year 1)
Let’s Think through Maths! (Years 2 to 4)
Thinking Maths Teacher File – new edition (Years 7, 8 and 9)
www.heinemann.co.uk/secondary/book.aspx?n=0&d=s&s=0&skey=3228&isbn=0435307800
Thinking Maths Teacher File – new edition (Years 7, 8 and 9)
Published in May 2006