Cwricwlwm 2008

CWRICWLWM CYMRU 2008


Cwricwlwm 2008 yw’r cwricwlwm cenedlaethol diwygiedig ar gyfer gwyddoniaeth yng Nghymru.

Bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i weithredu’r rhaglenni astudio diwygiedig a’r targedau cyrhaeddiad ar gyfer gwyddoniaeth o’r dyddiadau isod ymlaen:

  • 1 Awst 2008 ar gyfer Blynyddoedd 3, 4 a 5, Blynyddoedd 7 ac 8 a Blynyddoedd 10 ac 11 yng Nghyfnod Allweddol 4.
  • 1 Awst 2009 ar gyfer Blwyddyn 6 a Blwyddyn 9.

Newidiadau i’r Cwricwlwm

Y prif newidiadau i’r Gorchymyn cyfredol (2000) yng Nghyfnod Allweddol 2 yw:

Mae’r cwricwlwm wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru i amlygu bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae’r Ystod yn cael ei addysgu yn awr drwy’r penawdau isod:

  • Cyd-ddibyniaeth Organebau
  • Y Ddaear Gynaliadwy
  • Sut mae Pethau’n Gweithio

Mae llai o fanylion wedi’u cynnwys o fewn yr Ystod am y mathau o weithgareddau a chyd-destunau ar gyfer dysgu.

Mae’r pwyslais bellach ar ddatblygu sgiliau drwy bynciau’r Ystod.

Mae’r sgiliau wedi’u rhannu yn bedwar maes datblygu:

  • Cyfathrebu
  • Cynllunio
  • Datblygu
  • Myfyrio

Dylai plant gael y cyfle i wneud gwahanol fathau o ymholiadau, megis:

  • Chwilio am batrymau
  • Archwilio
  • Dosbarthu ac adnabod
  • Gwneud pethau
  • Profi teg
  • Defnyddio a chymhwyso modelau

Mae datganiadau wedi’u hychwanegu at yr Ystod Cyd-ddibyniaeth Organebau i ganolbwyntio ar :

  • Enwau a swyddogaethau prif organau’r bod dynol,
  • Sut mae bodau dynol yn effeithio ar yr amgylchedd lleol, e.e. sbwriel, llygredd dŵr, llygredd sŵn a
  • Deall bod angen gwneud ymarfer corff i gadw bodau dynol mewn iechyd da.

Mae datganiadau wedi’u hychwanegu at yr Ystod Y Ddaear Gynaliadwy i ganolbwyntio ar:

  • Sut y bydd rhai deunyddiau yn cael eu ffurfio neu eu cynhyrchu?
  • Ystyried beth yw gwastraff a beth sy’n digwydd i wastraff lleol y gellir ei ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu a
  • Symudiadau beunyddiol a blynyddol y Ddaear a’u heffaith ar hyd diwrnod a blwyddyn.

Nid yw Twf, Atgynhyrchu a symudiad bellach yn rhan o’r cwricwlwm.

Mae’r disgrifiadau lefelau wedi’u diwygio i esbonio cynnydd ac maent yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau.


 

Clicier yma am Ddeunyddiau Enghreifftiol o ran Cwricwlwm 2008

Search

Pynciau eDdiogelwch FfHW TGCh Eco Sgolion Ysgolion Iach Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar Cynorthwy-ydd Dysgu