Newyddion
Datblygiad Proffesiynol - Cyrsiau
Gwyddonwyr Bach yn CA1/Cyfnod Sylfaen
Cod:
SCP79
Lleoliad a Dyddiad:
19.06.08 CAB Glanyfferi
30.06.08 CAB Felinfach
24.09.08 CAB Glanyfferi
Deall y Cwricwlwm Cenedlaethol Newydd ar gyfer Gwyddoniaeth yn CA2
Cod:
SCP80
Lleoliad a Dyddiad:
10.06.08 CAB Glanyfferi
11.06.08 CAB Glanyfferi
16.06.08 CAB Felinfach
Am fanylion pellach gwelwch eich CD “Datblygiad proffesiynol” 2008 - 2009
CWRICWLWM CYMRU 2008
Y prif newidiadau i’r Gorchymyn cyfredol (2000) yng Nghyfnod Allweddol 2 yw:
Mae’r cwricwlwm wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru i amlygu bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae’r Ystod yn cael ei addysgu yn awr drwy’r penawdau isod:
- Cyd-ddibyniaeth Organebau
- Y Ddaear Gynaliadwy
- Sut mae Pethau’n Gweithio
Mae llai o fanylion wedi’u cynnwys o fewn yr Ystod am y mathau o weithgareddau a chyd-destunau ar gyfer dysgu.
Mae’r pwyslais bellach ar ddatblygu sgiliau drwy bynciau’r Ystod.
Mae’r sgiliau wedi’u rhannu yn bedwar maes datblygu:
- Cyfathrebu
- Cynllunio
- Datblygu
- Myfyrio
Dylai plant gael y cyfle i wneud gwahanol fathau o ymholiadau, megis:
- Chwilio am batrymau
- Archwilio
- Dosbarthu ac adnabod
- Gwneud pethau
- Profi teg
- Defnyddio a chymhwyso modelau
Mae datganiadau wedi’u hychwanegu at yr Ystod Cyd-ddibyniaeth Organebau i ganolbwyntio ar :
Enwau a swyddogaethau prif organau’r bod dynol,
sut mae bodau dynol yn effeithio ar yr amgylchedd lleol, e.e. sbwriel, llygredd dŵr, llygredd sŵn a
Deall bod angen gwneud ymarfer corff i gadw bodau dynol mewn iechyd da.
Mae datganiadau wedi’u hychwanegu at yr Ystod Y Ddaear Gynaliadwy i ganolbwyntio ar:
Sut y bydd rhai deunyddiau yn cael eu ffurfio neu eu cynhyrchu?
Ystyried beth yw gwastraff a beth sy’n digwydd i wastraff lleol y gellir ei ailgylchu a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu a
Symudiadau beunyddiol a blynyddol y Ddaear a’u heffaith ar hyd diwrnod a blwyddyn.
Nid yw Twf, Atgynhyrchu a symudiad bellach yn rhan o’r cwricwlwm.
Mae’r disgrifiadau lefelau wedi’u diwygio i esbonio cynnydd ac maent yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau.