Newyddion
Hwyl Gyda Sgiliau Sylfaenol Trwy TGCh a Llythrennedd
Cliciwch yma i ymweld â'n tudalen Sgiliau Sylfaenol.
Cwricwlwm 2008 - Fframwaith Sgiliau
Mae deunyddiau enghreifftiol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3 Mamiaeth ac Ail-Iaith ar gael ar Amdro.
Cwis Llyfrau Cymraeg 2008
Rownd Sir Gaerfyrddin 24ain Ebrill 2008 yn Neuadd Pontyberem i ddechrau am 9.30 y bore.
Yr ysgolion sy'n cystadlu yw:
Penygroes
Nantgaredig
Dewi Sant
Cae'r Felin
Carreg Hirfaen
Datganiad Newyddion Estyn
Angen mwy o strwythur ar addysg ffoneg i gynorthwyo medrau dysgu cynnar 22 Mehefin 2007
Cymraeg

Prif newidiadau'r Cwricwlwm (2000)
- Sicrhawyd mwy o gysondeb rhwng y modelau Cymraeg a Chymraeg ail iaith a rhwng y Gorchmynion Cymraeg a Saesneg.
- Lle bo hynny'n bosibl, mae llinynnau yr un fath yn Cymraeg, Cymraeg ail iaith a Saesneg; mae'r un system rifo yn gymwys yn y ddau fodel Cymraeg ac yn y Gorchymyn Saesneg. Lle bo pwyntiau ychwanegol yn un o'r Gorchmynion, fe'u rhoddir ar ddiwedd y rhestr.
- Mae dilyniant ar draws cyfnodau allweddol a modelau yn fwy eglur a defnyddir yr un derminoleg lle bo hynny'n bosibl.
- Yn y tri tharged cyrhaeddiad, mae cynnwys yr adran Datblygiad Iaith wedi'i gynnwys o fewn naill ai'r adrannau Sgiliau neu Ystod.
- Rhoddir pwyslais ar ddatblygu dealltwriaeth o briodoldeb y cywair ffurfio mewn sefyllfaoedd penodol.
- Caiff cynulleidfa, ystod a ffurfiau eu nodi yn eang a hyblyg fel eu bod ydiwallu anghenion yr unfed ganrif ar hugain.
- Yng Nghyfnod Allweddol 4, sicrhawyd cysondeb rhwng Sgiliau Allweddol Cyfathrebu a'r diffiniadau cyfredol o Sgiliau Ffwythiannol.
Llafaredd
- Mae cyfeiriadau mwy amlwg at werthuso siarad eraill yn ogystal â'u siarad eu hunain, wedi'u hychwanegu yn ogystal â'r angen i 'ystyried sut i wella'.
- Mae'r angen i 'redeg arddodiaid' a bod yn 'ymwybodol o genedl enwau' yn Cymraeg/Cyfnod Allweddol 3 Cymraeg ail iaith wedi'i newid i 'defnyddio arddodiaid' a 'defnyddio cenedl enwau'.
- Mae pwyslais ar wneud cysylltiadau â Saesneg ac ieithoedd eraill a manteisio ar yr wybodaeth sydd ganddynt fel modd o gynyddu eu hyder cyffredinol wrth ddefnyddio iaith.
- Rhoddir mwy o bwyslais ar ddatblygu dadleuon a chefnogi eu safbwyntiau gyda rhesymau; adlewyrchir y pwyslais hwn yn ydisgrifiadau lefel ac mae mynegi barn bellach yn ymddangos ar Lefel 3 yn Cymraeg ail iaith.
Darllen
- Ychwanegwyd cyfeiriad at atalnodi i ddynodi ei bwysigrwydd o ran egluro ystyr.
- Ychwanegwyd cyfeiriad yn y model Cymraeg at y modd y mae testunau yn newid pan gânt eu haddasu ar gyfer gwahanol gyfryngau.
- Yn y model Cymraeg/Cyfnod Allweddol 3 Cymraeg ail iaith ychwanegwyd 'deunydd sy'n cynnig her' a 'deunydd sy'n cyflwyno gwybodaeth a deunydd cyfeiriol' i'r ystod o ddarllen sy'n ofynnol.
- Cryfhawyd cyfeiriadau at adnabod a gwerthfawrogi gwahanol arddulliau o fewn testunau.
- Rhoddir mwy o bwyslais ar strategaethau galw gwybodaeth i gof a chydlynu gwybodaeth, adlewyrchir y newid hwn yn y disgrifiadau lefel.
- Dilëwyd cyfeiriad at strategaethau darllen penodol fel ffoneg a graffeg a mewnosodwyd 'strategaethau amrywiol'.

Ysgrifennu
- Ychwanegwyd llawysgrifen a sgiliau cyflwyno i Gyfnodau Allweddol 3 a 4 ac ym mhob cyfnod allweddol mae'r adran hon yn cynnwys cyfeiriadau penodol at sgiliau bysellfwrdd a'r defnydd o ddyfeisiadau cyflwyno TGCh.
- Fel ag yn Llafaredd, mae'r angen i 'redeg arddodiaid' a bod yn 'ymwybodol o genedl enwau' yn Cymraeg/Cyfnod Allweddol 3 Cymraeg ail iaith wedi'i newid i 'defnyddio arddodiaid' a 'defnyddio cenedl enwau'.
- Mae ychwanegiadau i'r eitemau atalnodi yng Nghyfnod Allweddol 2; tra bo'r rhestr yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 wedi'i dileu a chyfeiriad at ddefnyddio'r 'ystod lawn o farciau atalnodi' yn ei lle.
- Rhoddwyd pwyslais ar werthuso eu gwaith eu hunain, a gwaith eraill yn Cymraeg/Cyfnod Allweddol 4 Cymraeg ail iaith, mae hwn yn disodli 'trafod nodweddion...gwaith...'.
Gemau'r Parot Piws
Newydd
Gemau Geiriau Allweddol
Meithrin iaith gynnar yn y Gymraeg
@ebol