Cerddoriaeth - Newyddion
Deunyddiau Enghreifftiol Cwricwlwm 2008
Mae deunyddiau enghreifftiol ar gyfer CA 2 a 3 ar gael ar lein.
Llwyddiant Cenedlaethol 2009
Llongyfarchiadau i’r ieuenctid canlynol o Sir Gaerfyrddin. Yn dilyn gwrandawiad maent wedi llwyddo i gael lle yn un o grwpiau cenedlaethol ieuenctid Cymru. Llongyfarchiadau hefyd i nifer o ieuenctid eraill o’r sir sydd ar y rhestr wrthgefn. Rydym yn ymfalchïo ym mhob un ohonynt.
CERDDORFA GENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU
Ffion Bevan, Hawys Freeman, Anna Leggett, Sioned Powell, Claire Roberts, Helen Roberts, Steffan Rizzi - pob un ar y feiolin.
Rupert Browne - Corn Ffrengig, Catrin Price - Ffliwt, Rhys Jones - Telyn, Adrian Williams - Trymped, Matthew Williams Trymped.
BAND PRES CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU
Catherine Showell – Corn Tenor, Tom Scaife - Trombôn
Christopher Smith – Ewffoniwm, Dafydd Lewis - Bariton
CÔR CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU
Catrin-Lisa Phillips – Soprano, Sioned Watkins – Alto, Ffion Thomas – Alto, Rebecca Davies – Alto
Gareth Evans - Tenor, Gareth Murphy – Tenor, Gethin Lewis – Tenor, Matthew Jenkins – Bas, Dafydd Davies – Bas, Rhys Jones - Bas
‘JAZZ’ CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU
Nils Richards – Trombôn
CERDDORFA CHWYTH CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU
Adrian Williams – Trymped, Matthew Williams – Trymped, Nils Richards - Trombôn
Llongyfarchiadau hefyd i Anne Denholm fydd yn ymddangos fel prif delyn gyda Cherddorfa Ieuenctid Prydain Fawr, ac i Catrin Price sydd wedi ei derbyn fel aelod o Gerddorfa Siambr Plant Prydain Fawr 2009.
Cerddor Ifanc Dyfed 2008
Llongyfarchiadau i Rebecca Griffiths (ffliwt) o Ysgol Aberdaugleddau ar ei buddugoliaeth yn rownd derfynol Cerddor Ifanc Dyfed 2008. Llongyfarchiadau hefyd i Cathryn Ann Rees (feiolin) o Ysgol Bro Myrddin a ddaeth yn ail, a Huw Llyr Evans (ewffoniwm) o Ysgol Penweddig a ddaeth yn drydydd. Fe roddodd y tri uchod a'r ddau arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol, sef Litona Harries (baswn) a Ciona Smith (fiola), gyngerdd gwych i'r gynulleidfa oedd yn bresennol.
Cyngherddau'r Tair Sir 2008
Cliciwch fan hyn am adroddiad ar gyngherddau'r Tair Sir 2008
Cyfansoddwr Ifanc Dyfed 2008
Llongyfarchiadau lu i Stacey Doherty o Ysgol Emlyn ar ei buddugoliaeth yng nghystadleuaeth Cyfansoddwr Ifanc Dyfed 2008 gyda’i chyfansoddiad ‘City Life’.
Llongyfarchiadau hefyd i enillwyr y tri chategori - Cerian Lindsay (Tregib), Gweirydd Davies (Bro Myrddin), a Sarah Lewis (gynt o Benglais, ond yna awr ym Mhrifysgol Caerdydd).
Y cyfansoddwyr eraill yn y rownd derfynol oedd Adam Bowman, Lucy Dixon, Matthew Jones, Ellen Mason a Jack Westmore. Diolch i’r cyfansoddwyr ifanc i gyd am noson ardderchog o greadigrwydd eithriadol.
TGCh ac agweddau o gerddoriaeth CA3 sy'n anodd ei haddysgu
Cliciwch fan hyn i ddarllen am adnodd newydd ar y we drwy NAME - Cymdeithas Addysgwyr Cerdd Prydain Fawr.