Newyddion Diweddaraf am Addysg Grefyddol

Am wybodaeth bellach ar yr eitemau isod, cysylltwch â Mary Parry, Ymgynghorydd Cysylltiol Addysg Grefyddol yng Nghanolfan Griffith Jones, ar: mparry@sirgar.gov.uk neu ffon:01994 231866

Cynhadledd Addysg Grefyddol - Rhannu arfer dda yn y Cyfnod Sylfaen

 

Jayne's workshop“Cynhadledd wych, mor gynhwysfawr.  Hyfryd oedd gweld cymaint o arfer dda mewn un diwrnod.”

“Diwrnod gwerthfawr tu hwnt – rwy’n methu aros i ddefnyddio’r syniadau a’r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth.”

Dyma sylwadau dau o athrawon a fynychodd y gynhadledd uchod a gynhaliwyd ym mis Mehefin ac a ariannwyd gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.  Ei phwrpas oedd dathlu a rhannu arfer dda yn addysg grefyddol sy’n digwydd ar hyn o bryd mewn dosbarthiadau derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2, ac yn ogystal, ysbrydoli athrawon i ddarparu addysg grefyddol o’r ansawdd gorau ar gyfer eu disgyblion.  Roedd y gynhadledd hefyd yn rhoi gwybodaeth am addysg grefyddol yng nghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a fydd yn dechrau ym mis Medi 2008.Gweithdy 1 Wendy

Yn dilyn sesiwn rhagarweiniol gan Mary Parry, ymgynghorydd cysylltiol Addysg Grefyddol y sir, ar natur a lle addysg grefyddol o fewn Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, treuliodd aelodau’r gynhadledd weddill y dydd mewn pedwar gweithdy o’u dewis.  Darparwyd y gweithdai hyn gan naw o athrawesau sir Gaerfyrddin.  Bu’r athrawesau hyn yn rhannu eu harfer dda a’u profiadau trwy ddisgrifio neu fodelu cyfres o weithgareddau yr oeddent wedi eu darparu yn yr ystafell ddosbarth. Hefyd, dangosont enghreifftiau o waith plant, ffotograffau, arteffactau, adnoddau, ayyb.  Buont yn sôn am ymateb y plant ac am sut mae’r gweithgareddau wedi codi diddordeb, brwdfrydedd a dealltwriaeth y plant yn ogystal â gwella eu sgiliau a’u hagweddau. Cyfrannodd grŵp bach o blant mewn dau o’r gweithdai.   Roedd cyfle hefyd i aelodau’r gynhadledd ofyn cwestiynau a rhannu eu syniadau a’u hesiamplau o arfer dda eu hunain.

I gael adroddiad ar y gynhadledd ynghyd â syniadau ymarferol ac adnoddau i ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth, cliciwch yma.  


Ymweliad Astudio i Mannau Addoli yng Nghaerdydd

Gan fod cymaint o alw, rwyf yn bwriadu trefnu cwrs HMS 2 ddiwrnod (aros un noson) i wahanol fannau addoli a chymunedau crefyddol yng Nghaerdydd, sydd i'w ariannu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CACC). Mae'r cwrs yn bennaf ar gyfer athrawon ysgolion cynradd.

Bydd yr ymweliad yn cynnwys synagog uniongred, synagog ddiwygiedig, mosg, gurdwara (Siciaeth), mandir (Hindŵaeth) ac eglwys gadeiriol Gatholig Rufeinig.  Bwriedir cynnal y cwrs ar ddyddiad fydd yn cyd-ddigwydd â'r ŵyl Iddewig Succoth (Gŵyl y Cynhaeaf) a'r ympryd Mwslimaidd Ramadan.  Felly bydd yn bosibl hefyd yn ystod yr ymweliad i weld a thrafod sut mae Iddewon a Mwslimiaid yn cadw'r agweddau hyn o'u crefydd.

Bydd sesiwn hanner diwrnod yn cael ei gynnal wythnos cyn y cwrs. Yn y sesiwn hwn bydd gwybodaeth am y mannau addoli a'r gwyliau yn cael eu dosbarthu.  Hefyd, bydd syniadau ar gyfer gweithgareddau addysgu a dysgu sy'n addas i wahanol oedrannau yn yr ysgol gynradd ac sy'n cyflawni gofynion Maes Llafur Cytûn y sir yn cael eu trafod.  Bydd hyn yn sicrhau y ceir cymaint o fudd â phosibl o'r ymweliad. 

Cyllid – Gall y cwrs gael ei ariannu gan CACC.  Yn achos athrawon cymwys, bydd hyn yn golygu y bydd costau'r cwrs (£250 fydd yn cynnwys llety, bws ac ati) ynghyd â'r costau cyflenwi yn cael eu talu trwy fwrsariaeth CACC ac felly ni fydd yn costio dim i'r ysgol. 

Am ragor o fanylion, cysylltwch a Mary Parry, Ymgynghorydd Cysylltiol Addysg Grefyddol - cyfeiriad uchod


Cynlluniau Gwaith Enghreifftiol Addysg Grefyddol ar gyfer CA1 a CA2

Mae'r cynlluniau gwaith enghreifftiol Addysg Grefyddol CA1 a CA2 wedi'u diweddaru (Hydref 2006) ac maent wedi'u cyhoeddi ar y safle hwn yn y ffolder 'Addysg Grefyddol', is-ffolder 'Cynlluniau Gwaith'.


Gwefan Addysg Grefyddol Sir Gaerfyrddin

Ydych chi wedi ymweld a gwefan Addysg Grefyddol Sir Gaerfyrddin. Mae'n cynnwys tair adran ar hyn o bryd:

i. teithiau rhithiwr o addoldai yng Nghymru ynghyd a gwybodaeth gefndir

  • synagog Abertawe
  • mosg a chanofan Yemeni Caerdydd
  • Bhata Gurdwara Caerdydd
  • Capel yr Annibynwyr Cymreig yn Synod Inn, Ceredigion (i ymddangos cyn bo hir)

ii. Arteffactau crefyddol - lluniau lliw a gwybodaeth gefndir. Noder: gall ysgolion Sir Gaerfyrddin a Cheredigion fenthyg yr arteffactau hyn - o Ganolfan Griffith Jones a Chanolfan Addysg Felinfach. .

iii. Cymorth Cristnogol - beth yw Cymorth Cristnogol, sut mae'n gweithio ac enghreifftiau o'u prosiectau i helpu pobl dlotaf y byd, gan gynnwys prosiect amgylcheddol.

Cyfeiriad yr wefan yw:: http://credo.ysgolccc.org.uk Gallwch chi gael mynediad i'r wefan hon yn y ffolder 'Addysg Grefyddol' is-ffolder 'Adnoddau'.


Cyfarfod Rhwydweithiol Penaethiaid Adran Addysg Grefyddol

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 29 Mehefin 2007 yng Nghanolfan Griffith Jones yn Sancler. Rhennir newyddion am y datblygiadau diweddaraf yn AG.  Prif eitem yr agenda fydd ystyried rhan gyntaf yr adran ar ‘Sgiliau’ sy’n ymddangos yn y Fframwaith enghreifftiol ddrafft newydd ar gyfer Addysg Grefyddol, sef ‘Ystyried Cwestiynau Sylfaenol’.   Bydden ni’n edrych ar ffyrdd effeithiol o hybu’r agwedd hon yn yr ystafell ddosbarth.


 Noson Gymdeithasol i athrawon Addysg Grefyddol yn Sir Gâr a Cheredigion

Nos Wener, 6ed Gorffennaf 2007 yn y Tanerdy yng Nghaerfyrddin.  Croeso i bawb.



Search

Pynciau eDdiogelwch FfHW TGCh Eco Sgolion Ysgolion Iach Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar Cynorthwy-ydd Dysgu