Adroddiad y Gynhadledd
Cynhadledd Addysg Grefyddol - Rhannu arfer dda yn y Cyfnod Sylfaen
Isod ceir adroddiad ar y gynhadledd a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Halliwell a Choleg y Drindod ar 26 Mehefin 2007. Mae’n cynnwys hypergysylltiadau i gynnwys bob un o’r gweithdai arfer dda, gyda syniadau ymarferol i’w defnyddio yn y dosbarth.
Adroddiad y Gynhadledd
“Cynhadledd wych, mor gynhwysfawr. Hyfryd oedd gweld cymaint o arfer dda mewn un diwrnod.”
“Diwrnod gwerthfawr tu hwnt – rwy’n methu aros i ddefnyddio’r syniadau a’r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth.”
Dyma sylwadau dau o athrawon a fynychodd y gynhadledd uchod a gynhaliwyd ym mis Mehefin ac a ariannwyd gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Ei phwrpas oedd dathlu a rhannu arfer dda yn addysg grefyddol sy’n digwydd ar hyn o bryd mewn dosbarthiadau derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2, ac yn ogystal, ysbrydoli athrawon i ddarparu addysg grefyddol o’r ansawdd gorau ar gyfer eu disgyblion. Roedd y gynhadledd hefyd yn rhoi gwybodaeth am addysg grefyddol yng nghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a fydd yn dechrau ym mis Medi 2008.
Yn dilyn sesiwn rhagarweiniol gan Mary Parry, ymgynghorydd cysylltiol Addysg Grefyddol y sir, ar natur a lle addysg grefyddol o fewn Cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, treuliodd aelodau’r gynhadledd weddill y dydd mewn pedwar gweithdy o’u dewis. Darparwyd y gweithdai hyn gan naw o athrawesau sir Gaerfyrddin. Bu’r athrawesau hyn yn rhannu eu harfer dda a’u profiadau trwy ddisgrifio neu fodelu cyfres o weithgareddau yr oeddent wedi eu darparu yn yr ystafell ddosbarth. Hefyd, dangosont enghreifftiau o waith plant, ffotograffau, arteffactau, adnoddau, ayyb. Buont yn sôn am ymateb y plant ac am sut mae’r gweithgareddau wedi codi diddordeb, brwdfrydedd a dealltwriaeth y plant yn ogystal â gwella eu sgiliau a’u hagweddau. Cyfrannodd grŵp bach o blant mewn dau o’r gweithdai. Roedd cyfle hefyd i aelodau’r gynhadledd ofyn cwestiynau a rhannu eu syniadau a’u hesiamplau o arfer dda eu hunain.
Y gweithdai a’r darparwyr
1. Cyflwyno Rabbi Ben, y ddol bersona Iddewig, ac agweddau addas ar Iddewiaeth (cyfrwng Cymraeg a Saesneg)
Darparwr:Mrs Jayne Davies, athrawes dosbarth CA1, Ysgol y Babanod, Felinfoel. Ar gyfer disgrifiad manwl ac adnoddau, cliciwch yma.
.jpg)
2. Gweithgareddau dysgu ac addysgu effeithiol ar y thema AG ‘Lleoedd Arbennig’, gan gynnwys dol bersona y ficer ac Amser Cylch (cyfrwng Cymraeg).
Darparwr: Mrs Annalyn Davies, Pennaeth ac athrawes AG yn CA1 a’r blynyddoedd cynnar, Ysgol Gynradd Llanpumpsaint, ynghyd â chwe disgybl, Christian, Sam, Catherine, Josephine, Gwawr and Rhys a’r cynorthwyydd dysgu, Mrs Ray Davies. Bydd disgrifiad manwl o’r gweithdy ac adnoddau yn ymddangos yma cyn bo hir.
3. Defnyddio TGCh a gweithgareddau eraill i gyflwyno’r Pasg, Bywyd Newydd a Bedydd (cyfrwng Cymraeg)
Darparwr: Mrs Lilian Davies, athrawes dosbarth CA1 a’r blynyddoedd cynnar, Ysgol Abergwili. Bydd disgrifiad manwl o’r gweithdy ac adnoddau yn ymddangos yma cyn bo hir.
.jpg)
4. Cyflwyno Seema, y ddol bersona Hindŵaidd ac agweddau addas ar Hindŵaeth (cyfrwng Cymraeg).
Darparwr: Miss Cathryn Clements, athrawes dosbarth blwyddyn 2, Ysgol y Dderwen, ynghyd â phedwar o ddisgyblion, Garmon, Chloe, Rebecca and Ffion. Bydd disgrifiad manwl o’r gweithdy ac adnoddau yn ymddangos yma cyn bo hir.
.jpg)
5. Cyflwyno Surinder, y ddol bersona Sikhaidd ac agweddau addas ar Sikhiaeth (cyfrwng Cymraeg).
Darparwr: Mrs Kay Jenkins, athrawes dosbarth CA1 a’r blynyddoedd cynnar, Ysgol Gynradd John Vaughan, Llangynnog. Bydd disgrifiad manwl o’r gweithdy ac adnoddau yn ymddangos yma cyn bo hir.
.jpg)
6. Defnyddio TGCh a gweithgareddau eraill i gyflwyno’r Nadolig (cyfrwng Saesneg).
Darparwr: Miss Delyth Williams, athrawes dosbarth blwyddyn 2, Ysgol Tre Ioan, Caerfyrddin. Bydd disgrifiad manwl o’r gweithdy ac adnoddau yn ymddangos yma cyn bo hir.
.jpg)
7. Cyflwyno stori’r geni i ddosbarth derbyn gan ddefnyddio dulliautrawsgwricwlaidd a chwarae (cyfrwng Saesneg).
Darparwr: Miss ValDavies, athrawes dosbarth derbyn, Ysgol Gynradd Tycroes. Bydd disgrifiad manwl o’r gweithdy ac adnoddau yn ymddangos yma cyn bo hir.
.jpg)
8. Cyflwyno Surinder, y ddol bersona Sikhaidd, ac agweddau addas ar Sikhaeth i ddosbarth derbyn (cyfrwng Saesneg).
Darparwr: Mrs Wendy Evans, athrawes dosbarth derbyn Ysgol y Babanod, Porth Tywyn. Bydd disgrifiad manwl o’r gweithdy ac adnoddau yn ymddangos yma cyn bo hir.
.jpg)
9. Gweithgareddau dysgu ac addysgu effeithiol ar y thema AG ‘Dathliadau’, gan gynnwys gweithgareddau ar gyfer y bwrdd gwyn rhyngweithiol (cyfrwng Saesneg).
Darparwr: Mrs Louise Davies, athrawes dosbarth CA1 a’r blynyddoedd cynnar, Ysgol Nantygroes. Bydd disgrifiad manwl o’r gweithdy ac adnoddau yn ymddangos yma cyn bo hir.
Mynychodd dros 80 o athrawon Sir Gaerfyrddin a Cheredigion y gynhadledd, ac roeddent yn canmol yn unfrydol ansawdd uchel y gweithdai arfer dda a’u defnyddioldeb. Hoffwn ddiolch i’r naw athrawes uchod am eu parodrwydd i rannu eu profiadau gydag eraill ac am eu gwaith caled a’u hamser wrth baratoi’r gweithdai. Hoffwn ddiolch hefyd i Ganolfan yr Halliwell a Choleg y Drindod am gynnal y gynhadledd, ac i’r staff yng Nghanolfan Griffith Jones, yn arbennig Gwyneth, Meinir, Nia, Tristy ac Andrew, am sicrhau diwrnod hwylus a threfnus dros ben.
Adnoddau a gynhyrchwyd gan Ymgynghorydd Cysylltiol Addysg Grefyddol y Sir ac a ddefnyddiwyd yn y Gynhadledd
1. Am syniadau ar gyfer defnyddio’r tair dol bersona, cliciwch ar y lluniau isod:
Persona Seema Patel

Persona Rabbi Benjamin Jacob
Persona Surinder Singh

2. Gwefannau rhyngweithiol ar gyfer addysg grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen a gynhyrchwyd gan yr Ymgynghorydd Cysylltiol
Teulu Hindŵaidd sy’n byw yng Nghymru - Seema Patel a’i theulu
Nadolig
Y Pasg
Diwali