Newyddion


Trychineb Burma adnodd ar gyfer gwasanaeth C.A.2/3

http://learn.christianaid.org.uk/TeachersResources/primary/disasters_assembly.aspx


Cwricwlwm 2008 Gwefan newydd ABCh

Mae'r wefan newydd ABCh yn cynnwys adnoddau a chysylltiau defnyddiol iawn ar gyfer cynllunio ABCh yn eich ysgol

Cliciwch fan hyn www.cymru.gov.uk/addysgbersonolachymdeithasol


Iechyd Emosiynol/ Fy myd Un bydfy myd unbyd

Addysg ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain
Bwriedir i ‘Fy Myd Un Byd’ fod mor gynhwysfawr â phosibl, gan sicrhau bod elfen gref o wahaniaethu o ran y ddarpariaeth. Mae’n rhoi cyfle i’r holl ddisgyblion ddisgleirio a gwneud cyfraniad. Yn fynych y plant mwyaf difantais a mwyaf anhydrin sy’n elwa fwyaf.

Mae'r raglen wedi cael ei defnyddio'n llwyddiannus gyda:

ABCh

Ysgolion Iach

'Sgolion Eco

Lles staff a disgyblion

Gwrth-fwlio

Gwrth-hiliol

Ysgolion Rhyngwladol

Os oes diddordeb gennych cysylltwch a Heike Griffiths

 01554 811102/ 07773089033

heikeschaub@tiscali.co.uk

 


 

CEWC CYMRU Delwedd Newydd ar- lein

Gwefan gwbl ddwyiethog sy'n talu sylw i bynciau fel hawliau dynol, cynnwys cymunedau, amrywiaeth a democratiaeth

www.cewc-cymru.org.uk


Fframwaith newydd 2008

Prif newidiadau i'r fframwaith cyfredol (2000)

Mae’r fframwaith wedi cael ei ddiwygio er mwyn:

1.      Pwysleisio’r cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau.

2.      Estyn y fframwaith ar gyfer dysgwyr ôl 16. Mae’r fframwaith yn ymestyn i ddysgwyr 7 -19 oed

3.      Datblydu sgiliau. Ym mhob cyfnod allweddol mae’r adran sgiliau wedi cael ei hestyn a chael mwy o silw. Er eglurdeb, mae deilliannau dysgu sgiliau wedi cael eu grwpio gyda’i gilydd dan benawdau cyffredin o’r ‘Fframwaith Sgiliau’ .

4.     Deillianau dysgu ar gyfer agweddau a gwerthoedd, a gwybodaeth a dealltwriaeth wedi cael eu huno o dan y pennawd ‘Ystod’

5.      Mae ‘r deg agwedd o’r fframwaith presennol wedi cael eu rhesymoli i greu pum thema allweddol:

-         Iechyd a lles emosiynol

-         Datblygiad moesol ac ysbrydol

-         Dinasyddiaeth weithredol

-         Datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang

- Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes.

 


 

Adnodd dwyieithog newydd am ddim – archebwch nawr – nifer cyfyngedig ar gael!

http://www.togethertv.org.uk/teaching-materials.shtml

Mae dvd Get Real yn cynnwys ffilmiau byr  a thaflenni gwaith,  gyfer 11-14,ar y themau canlynol –

Cyflwyniad
Tuag at heddwch
HIV: byw’n bositif
Hinsawdd sy’n newid
Hawliau plant
Byd dyn?

Gwych ar gyfer AG, ABCH, ADCDF.  Deunydd Saesneg a Chymraeg ar yr un DVD

I dderbyn copi ebostiwch info@togethertv.org gan gynnwys eich enw a chyfeiriad.

Addysg Rhyw a Pherthnasau

Mae nifer o ysgolion yn gweithredu addysg rhyw fel rhan o'u waith ar gyfer Ysgolion Iach.

Mae Pantycelyn, Strade, Maesyryrfa a Brehines Elisabeth wedi cymeryd rhan yn rhaglen cefnogi cyfoedion addysg rhyw yn y sir. Mae rhaglen wedi cael ei adnabyddu gan Cynllun Prifysgol Plant Coleg y Drindod.

Ceir hyfforddiant ar gyfer athrawon uwchradd a chynradd yn ystod 2007-08.

Mae nifer o adnoddau i gael ar y safle adnoddau (cynradd ac uwchradd)

Diolchiadau cynhesaf i John Sam Jones o Sir Ddinbych am ei ddogfen mapio uwchradd.

 

 

Ysgol Gynradd Trimsaran

Addysg Perthnasau

SRE trim

 

Cefnogi Cyfoedion Addysg Rhyw

Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

SRE sec

 

 

 


Croeso

Prosect Croeso- Addysg Cyfoedion

Cyfle gwych i 12 o ddisgyblion (e.e. cyngor ysgol) o'ch ysgol cael eu hyfforddi mewn materion cydraddoldeb.

Dyddiau Hyfforddiant

Gerddi Botaneg, Medi 17- 20, 2007

Clwb Rygbi Ser y Doc Newydd Llanelli, Medi 24- 28 (nid Medi 26) 2007

Pris

Am ddim! Ond bydd rhaid i ysgolion trefnu cludiant ac bydd rhaid i ddisgyblion dod a phecyn bwyd.

 

 

 

 


DIOGELWCH PLANT AR Y FFORDD - ADNODD DYSGU CYMRAEG

 

3Ms

Mae'r dogfennau dysgu yma nawr i gael yn y Gymraeg. I gofrestri fel athro/awes ewch i www.3Mstreetwise.co.uk

 

 


Cyrsiau Newydd

Ysgolion cynradd-

  • Hyfforddiant Camddefnyddio Cyffuriau a Sylweddau. Parc Myrddin 5.3.07

Ysgolion uwchradd-

  • Hyfforddiant Camddefnyddio Cyffuriau a Sylweddau. Canolfan Darganfod Llanelli 12.3.07.
  • Rhwydweithio ar gyfer cydcysylltwyr ABCh. CAB Glanyfferi 21.2.07 1.30.y.p.

 


Cyngor Ysgol

  

cyngor ysgol cynraddcyngor ysgol uwchraddcyngor ysgol oedolion

Mae nawr yn rheidrwydd statudol i bob ysgol gynradd ag uwchradd sefydlu a rhedeg Cyngor Ysgol. Os ydych angen unrhyw gymorth ychwanegol i ddatblygu eich cyngor ysgol cysylltwch â Swyddog Cyfranogi Ysgolion Uwchradd Sarah Powell ar 07748154672 neu Nia Wyn John ar 01267 267801i'r Ysgol Gynradd.

Gellir llwytho adnoddau cyffrous i o'r wefan www.schoolcouncils.org

 

Oxfam

Oxfam Logo

Ar lein, cynllun diddorol sy'n ysbrydoli y genhedlaeth ifanc o amryw wledydd i ddysgu wrth ei gilydd.

Milking it:

Adnodd newydd ar lein sy'n targedi oed 13-16 yn anelu mwy wybodaeth a dealltwriaeth ynglyn a materion masnach byd a diwydiant byd-eang.

Water for all:

Adnoddau rhyngweithiol rhagorol sy'n anelu at ragor o ddealltwriaeth o'r defnydd o ddwr, cadwraeth a llygredd.

Cool Planet For Teachers Logo
www.oxfam.org.uk/coolplanet

 

Adnoddau rhyngweithiol ABCh

B-DAG Logo   www.b-dag.com

Adnoddau effeithiol, rhyngweithiol dwyieithog ABCh ar gael i CA1 Abersaff a CA2 Canlyniadau.

 

Cefnogi Cyfoedion

Mae cefnogi cyfoedion (buddy) ysgolion gynradd ar gael i ysgolion trwy Menter Ysgolion Iach trwy gysylltu a Rhian Kenny neu Lynn Edwards ar 01994 231866

Mentora cyfoedion (addysg ryw a pherthynas). Cynhaliwyd hyfforddiant dau ddiwrnod i ddisgyblion y chweched dosbarth yn Ysgol Y Frenhines Elizabeth er mwyn eu galluogi i gyflwyno gwers i disgyblion blwyddyn 9. Cynhelir prosiect tebyg gan Maesyr Yrfa a Pantycelyn yn nhymor yr haf a'r hydref. Am ragor o fanylion cysylltwch â Rhian Kenny.

 

Addysg Sathai Sai

Mae Addysg Sathai Sai yn rhaglen gyffrous a ysgogolsy'n helpu i archwilio cysyniadau da neu drwg trwy adrodd stori,chwarae rôl, caneuon ,gemau a drama. Gellir addasu'r rhaglen i'w defnyddio gyda disgyblion o gyfnod sylfaen i Gyfnod Allweddol 4.

Sathya Sai Education In Human Values Logo

Janet Rowlands prifathrawes Ysgol Ponthenri
'Dim gimic yw e, mae e'n gweithio'

Ceir hyfforddiant a chymorth am ddim trwy gysylltu a Zita Starkie ar 01267 275424

Unrhyw gwybodaeth ychwanegol: www.sathyasaiehv.org.uk

Search

Pynciau eDdiogelwch FfHW TGCh Eco Sgolion Ysgolion Iach Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar Cynorthwy-ydd Dysgu