Israniad 2:Lledaenu a Rhannu Arferion Da

Bydd llinyn 'Lledaenu a Rhannu Arferion Da' rhaglen DPP y sir yn defnyddio Amdro i dynnu sylw at yr arferion da sy'n cael eu datblygu mewn ysgolion unigol, neu drwy ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd yn lleol.

Mae AALl Sir Gaerfyrddin yn parhau i chwilio am ddulliau effeithiol nid yn unig o gasglu gwybodaeth am y gweithgareddau DPP llwyddiannus sy'n digwydd o fewn y sir, ond hefyd o ledaenu'r hyn sy'n deillio o ddatblygu arferion.

Er mwyn bod yn llwyddiannus, bydd yr elfen hon o Amdro yn dibynnu ar barodrwydd yr ysgolion i rannu arferion a chyfrannu gwybodaeth ochr yn ochr â chydweithwyr yr AALl. Defnyddir y safle i osod gwybodaeth am arferion da wrth iddynt gael eu casglu o amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys enghreifftiau o arferion da:

* Yn cael eu clustnodi trwy drafodaethau 'Arferion Da, Cymorth a Her' rhwng ymgynghorwyr cyswllt ac ysgolion (Llinyn 3)
* Yn cael eu plannu mewn ysgolion o ganlyniad i athrawon yn mynychu cyrsiau byr neu ymgynghoriadau - a glustnodwyd gan ddarparwyr gwasanaeth ymgynghorol; (Llinyn 1 a 3)
* Yn codi o'r gweithio ar y cyd sy'n digwydd rhwng ysgolion bach; (Llinyn 3)
* Yn datblygu trwy brosiectau pontio sy'n cynnwys teuluoedd o ysgolion; (Llinyn 3)
* Yn deillio o weithgareddau rhwydweithio sy'n defnyddio cyllid gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a phrosiectau sy'n defnyddio Cyllid Ewropeaidd; (Llinyn 3)
* Yn deillio o brosiectau sy'n cynnwys ysgolion, yr AALl a Choleg y Drindod Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth (Llinyn 1 a 3)
* Yn deillio o gydweithredu rhwng yr AALl, Ceredigion a'r pump AALl arall sy'n rhan o Gonsortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru (Llinyn 1 a 4)

Hefyd gellir cyrchu'r enghreifftiau hyn trwy'r safleoedd dysgu priodol ar Amdro sy'n seiliedig ar y cynnwys e.e. Hanes, y Cyfnod Sylfaen.

Search

Pynciau eDdiogelwch FfHW TGCh Eco Sgolion Ysgolion Iach Sefydlu a Datblygiad Proffesiynol Cynnar Cynorthwy-ydd Dysgu