Hyd yn oed fi Miss James?
Yn Ysgol Brynteg rydym wedi mabwysiadu dull asesu ffurfiannol Shirley Clarke. Roedd hi wedi fy ysbrydoli'n fawr mewn cwrs a fynychais ym mis Tachwedd 2005. Mae hyn wedi newid y ffordd yr wyf yn addysgu a'r modd yr wyf yn cynnwys y plant yn eu dysgu. Roedd gennym amryw o strategaethau ar waith eisoes, ond roedd arnom angen dod â'r holl elfennau gwahanol at ei gilydd.
Erbyn hyn mae'r plant yn cymryd rhan ym mhob lefel o'u dysgu:
Cynllunio - Rhannu gweithgareddau dysgu - Adborth - Gosod Targedau
Codi Hunan-barch
Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar godi hunan-barch y plant ac yn credu bod hyn yn allweddol i'w dysgu. Rydym yn dymuno i'n plant dderbyn bod ganddynt y gallu i wella ac i ddysgu.
Trafod y dysgu/ennill hyder
Mae'r plant yn trafod eu dysgu ar bob lefel. Ar y dechrau, roeddent yn ei chael hi'n anodd trafod yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu ac yn tueddu i drafod yr hyn yr oeddent wedi'i wneud. Erbyn hyn maent wedi mynd i'r arfer o hunanwerthuso'u dysgu. Maent yn fwy hyderus wrth rannu eu dysgu gydag eraill. Mae'r bechgyn wedi ymateb yn arbennig o dda i'r gwaith o gysylltu eu hamcanion dysgu i 'sefyllfaoedd bywyd go iawn'. Mae'r disgyblion llai abl wedi ennill hyder ac maent yn sylweddoli bod ganddynt y gallu i wella'u dysgu.
Gofyn cwestiynau
Mae strategaethau ar waith i'w helpu nhw e.e. Posteri Cwestiynau. Beth allwn ni wneud i helpu'n hunain: - gofyn i ffrind - defnyddio llinell rhif - defnyddio geiriadur
Mae'r cwestiynau sy'n cael eu harddangos yn cynnwys:
- Beth oedd wedi gwneud iti feddwl pan oeddet yn dysgu...?
- Beth oeddet ti wedi'i gael yn anodd?
- Beth oedd wedi dy helpu di pan oedd rhywbeth yn mynd yn gymhleth? e.e. ffrind, llyfr
- Ynglŷn â beth rwyt ti angen mwy o help wrth ddysgu...?
- Beth rwyt ti'n fwyaf balch ohono ynghylch dysgu...?
Cafwyd ymateb o syndod gan un bachgen ar ôl ein sesiwn gwerthuso cyntaf yn dilyn uned o waith. Roeddem wedi bod yn siarad am yr hyn yr oeddent wedi'i ddysgu, a sut y byddai o fudd iddynt. Dywedodd "Hyd yn oed fi Miss James?" Aeth adref y noson honno a thrafod ei waith gyda'i fam (rhywbeth anarferol iawn!)
Os hoffech wybod mwy am y modd y mae Kate ac athrawon eraill yn datblygu gwaith Shirley Clarke yn eu dosbarthiadau, yna pam na wnewch chi roi galwad ffôn i Ysgol Brynteg?
Ydych chi'n datblygu 'strategaethau asesu ar gyfer dysgu' Shirley Clarke yn eich ysgol chi? Os ydych, yna rhowch wybod inni. Efallai gallwn ddechrau rhwydwaith a rhannu arferion ar Amdro. Os oes gennych ddiddordeb yna rhowch wybod i'r swyddog gwella ysgolion yn eich ysgol gyswllt.